Unedau neu Unedau SI yw symbol sy'n cael ei rhoi ar ddiwedd rhyw rhif penodol, yn dibynnu ar mesuriad a maint y mesuriad hwnnw. Mae maint rhywbeth ffisegol yn cael ei hysgrifennu fel rhif ac uned. Mae hyd yn maint ffisegol ac yn cael ei hysgrifennu mewn dau rhan, sef maint ac Uned.
Dyma tabl yn dangos meintiau sylfaenol ac unedau sylfaenol.
Meintiau | Enw Uned | Symbol Uned |
---|---|---|
Hyd | Metr | m |
Mas | Kilogram | Kg |
Amser | eiliad | s |
Cerrynt | Amperau | A |
Tymheredd | Kelvin | K |
Maint o Sylwedd | môl | môl |
Mae'r meintiau yma a'i unedau yn creu grŵp o unedau mwyaf syml. Mae pob maint ac uned arall yn cael ei diffinio oddi wrth y grŵp yma. Y meintiau yma yw'r meintiau sylfaenol o'r system rhywngwladol (SI).
Mae ambell maint fel buanedd heb unedau sylfaenol. Ond gall buanedd cael ei deillio o'r hafaliad Buannedd = Pellter (m) ÷ Amser (s)
Felly uned buanedd yw m/s.
Dyma tabl arall yn dangos mwy o unedau, ond rhain sy'n cael ei deillio o'r rhai sylfaenol.
Meintiau Ffisegol | Hafaliad Deilliadol | Uned Deilliadol | Enw neu Symbol Arbennig |
---|---|---|---|
Buannedd | Pellter/Amser | m/s | - |
Cyflymiad | Buanedd/Amser | m/s/s | - |
Grym | Mas × Cyflymiad | Kgm/s/s | Newton (N) |
Gwaith | Grym × Pellter | Nm | Joule (J) |
Pwer | Gwaith/Amser | J/s | Watt (W) |
Gwasgedd | Grym/Arwynebedd | N/m² | Pascal (Pa) |
Dwysedd | Mas/Cyfaint | Kg/m³ | - |
Gwefr | Cerrynt × Amser | As | Coulomb (C) |
Foltedd | Egni/Gwefr | J/C | Folt (V) |
Gwrthiant | Foltedd/Cerrynt | V/A | Ohm (ʊ) |