Adolygu Lefel A Wiki
Advertisement
Harri VIII

Dyma un cwestiwn arholiad posib 24 marc all ddod i fyny yn eich papur arholiad. Mae'n canolbwyntio'n gryf ar yr elfen Torri o Rhufain. Peidiwch gofidio os dydy'r cwestiwn ddim yn tebyg i'r un a gewch yn yr arholiad, maent yn golygu'r un peth.

Rhesymau[]

Ysgariad[]

  • Erbyn Rhagfyr 1532 roedd Anne Boleyn yn feichiog. I Harri, roedd ef eisoes wedi profi ei fod yn gymwys i genhedlu bachgen (Henry Fitzroy mab anghyfreithlon). Roedd Harri felly am briodi Boleyn er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn etifedd cyfreithlon.
  • Deuai Anne Boleyn o deulu bonheddig. Roedd ei thad, Syr Thomas Boleyn yn un o brif wleidyddion y cyfnod. Roedd y teulu yn awyddus i gryfhau eu pŵer ac felly yn annog y berthynas rhwng Anne a Harri.
  • Gwreiddiau y toriad o Rufain i'w weld yn y 1520au. Erbyn 1527 roedd Harri eisiau gorffen ei briodas gyda Catrin o Aragon. Ei etifedd ar hyn o bryd oedd Mari I. Roedd angen etifedd gwryw ac roedd Catrin o Aragon yn rhy hen i gael mwy o blant.
  • Gweddw ei frawd, Arthur, oed Catrin o Aragon. Dadleuai Harri bod y Beibl yn nodi ei fod yn anghyfreithlon yn llygaid Duw i briodi gweddw eich brawd. Gwrthododd y Pab i dderbyn y ddadl hwn.
  • Roedd Harri VIII mewn cariad ag Anne Boleyn. Gwrthododd y Pab i roi ysgariad i Harri a Catrin o Aragon.
  • Rôl Thomas Cromwell - ychwanegu at y cweryl gyda'r Pab. Perswadiodd ef Harri bod angen cael ysgariad er mwyn torri o Rufain.

Pŵer ac Arian[]

  • Roedd Harri VIII yn awyddus i fod y pŵer goruchaf yn Lloegr a Chymru - sef yr unig awdurdod. Nid oedd am i'r Pab na neb arall i gael pŵer a dylanwad dros ei wlad ef.
  • Dim am i rhywun o dramor - y Pab - o gael yr awdurdod i ymyrryd ym materion Lloegr.
  • Torri i ffwrdd o Rufain yn cynyddu pŵer ac urddas Harri VIII.
  • Dengys deddfwriaeth y diwygiad bod gan Harri resymau ariannol dros dorri o Rufain e.e. trethi eglwysig yn cael eu talu iddo ef nawr a nid y pab mwyach.

Dylanwad Y Diwygwyr Yn Ewrop A Chyflwr Yr Eglwys Gatholig[]

  • Roedd pobl gyffredin Cymru a Lloegr yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig ac yn derbyn awdurdod y Pab. Er hyn dechreuodd rai deallusion cwestiynu arferion yr Eglwys Gatholig e.e. yr angen am ffenestri lliw a chreiriau, iaith Lladin yr Eglwys, yr arfer o werthu maddeuebau. Cwestiynu cyfoeth yr Eglwys Gatholig gan fod Crist yn ddyn tlawd.
  • Roedd syniadau am y ffydd Protestannaidd newydd yn gryf ymysg deallusion Ewrop a Lloegr. Roedd yr awyrgylch a'r galw am newidiadau crefyddol o fantais i Harri VIII.
Advertisement