Adio Fectorau ydy pryd rydym yn cymryd maint grymoedd, cymryd eu cyfeiriad ac yn adio nhw at ei gilydd neu tynnu i weld beth yw'r grym cydeffaith.
Enghreifftiau[]
Syml[]
⟶5N 3N⟵ Grym Cydeffaith = 5N - 3N = 2N⟶
Deddf Paralelogram[]
Os cynrychiolir maint a chyfeiriad day rym gan ochrau paralelogram, cynrychiolir maint a chyfeiriad y grym cydeffaith gan y groeslin a dynnir o'r man lle y mae'r ddam rym yn gweithredu.
h.y. Os bydd grymoedd F₁ ac F₂ yn gweithredu ar ongl θ i'w gilydd bydd y grym cydeffaith yn teithio syth trwy canol y dau pwynt i'r cysylltiad arall yn y paralellogram. Gelwir hyn yn FR. Byddai rhaid defnyddio hanner yr ongl θ er mwyn darganfod y grym canolig.
Mae'r enghraifft hon yn enghraifft sydd ddim yn troi i fyny yn aml, ond mae'n dda i'w gwybod ar gyfer yr arholiad.
Dau rym ar Ongl Sgwȃr[]
Os bydd grymoedd F₁ ac F₂ yn gweithredu ar ongl sgwâr (θ=90∘) mae'r petryal a estynnir yn haws ei luniadu wrth raddfa cyfrifo maint FR gan ddefnyddio Theorem Pythagoras a roddir gan:
FR² = F₁² + F₂²
Yn a gellir darganfod ∝, sef yr ongl o dan y rym FR hefyd trwy ddefnyddio trigonometreg fel hyn:
tan ∝ = F₁ ÷ F₂
Cydrannu Fector i ddwy Gydran Berpendicwlar[]
Ystyriwch rym F sy'n gwiethredu ar wrthrych ar ongl θ i'r echelin x.
Mae dwy effaith gan y grym:
- mae'n tynnu'r gwrthrych yn llorweddol ar hyd echelin x.
- mae'n tynnu'r gwrthrych yn fertigol i fyny echelin y.
Faint o rym sy'n cydrannu at dynnu yn y ddau gyfeiriad? Galwn y grymoedd hyn yn gydrannau y grym F a gellir eu darganfod trwy digonometreg syml fel hyn:
FX = Fcosθ ac FY = Fsinθ
Sylwch y byddai'r cydrannau grym, X a Y, yn cynhyrchu'r un effaith ar y gwrthrych a gynhyrchwyd gan F yn wreiddiol. Er mwyn gwirio fod X ac Y wedi e cyfrifo'n gywir, gellir bob amser ail gyfuno X a Y i gael F trwy ddefnyddio F² = X² + Y².